Britain's Premier Job Portal
Swydd: Cymhorthydd Dosbarth
Rhif y Swydd: ED50257052Cyflog: Gradd 4 SCP 6-11 (£25,989- £28,142) Pro Rata
Cytundeb: Blwyddyn
Llawn Amser ond rydym yn agored i drafod oriau rhan amser
Cychwyn: mis Medi
Mae Corff Llywodraethol Ysgol Pencae yn awyddus i benodi cymhorthydd dosbarth i gefnogi dysgu, addysgu ac yn benodol llesiant ein disgyblion. Mae’r ysgol yn chwilio am berson cefnogol, brwdfrydig, ymroddgar ac egnïol.
Mae Ysgol Pencae ym mhentref Llandaf a chyfeiriwn at ein hunain fel ysgol bentref yn y ddinas o ganlyniad i agosatrwydd ein cymuned. Dyma gyfle arbennig i ymuno gyda thîm arbennig o staff sydd yn cydweithio er mwyn sicrhau addysg o’r radd flaenaf i’n disgyblion.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol er mwyn gallu cydweithio gyda phlant, athrawon a rhieni’r ysgol. Rydym yn chwilio am berson sy'n gallu arwain gweledigae...